14/05/2007

And ny nedgu gynbu

Dwi'n gwbod be da chi'n feddwl - be di'r teitl i fod?!? Wel, chydig o "buzzle" i chi, a gewch chi weld pam bod fi di rhoi "puzzle" i chi neud ychydig nes ymlaen...

...Yn y cyfamser, gena fi wsnos o ddal fyny i neud, ond unwaith eto da ni di cal wsnos reit relaxed (boring). Os da chi'm yn coelio fi, natha ni'm gneud dim byd ddoe mond mynd i'r sinema a gneud un jig-so, a cychwyn ar un arall ANODD. Nai ddim manylu mwy ar hyn, ond mi oedd o'n LOT o hwyl fel fedrwch chi ddychmygu.

Eniwe, wsos dwytha atha ni lawr i Milford Sound, sef ryw cruise cwch sy'n mynd i weld llefydd neis. Biti oedd hi'n BWRW DRW'R HOLL CRUISE!! Na, chwara teg, nath y tywydd ddechra'n iawn, tan i ni fynd AR y cwch. Dyma lunia o be natha ni weld cyn mynd ar y cwch. Ma nw'n galw'r llyn ma yn Mirror Lakes. Dyma pam:

A dyma afon natha ni weld:

A dyna pryd nath hi ddechra bwrw. Oedd y trip cwch braidd yn disappointing i fi. Y rhan gora oedd cal mynd reit at un o'r waterfalls. Pan mai rhan gora trip di cal eich sprayio yn eich gwynab efo dwr freezing, da chi'n gwbod bod o ddim y trip gora'n y byd...!

Eniwe, dwi'n teimlo'n anniolchgar yn slagio petha off. Dwi'n falch bod fi wedi gweld o, a doedd o ddim mor ddrwg a huna go iawn!

Yn ol yn Queenstown, nath Dan neud bungy jump! DAU o'na nw! Esh i i weld o'n gneud y cynta, off bont, ond swn i di gorfod talu $40 i weld o'n gneud y llall. Fedra i feddwl am betha gwell i neud efo fy mhres na gweld Dan yn sgrechian fel hogan (wel...dim lot chwaith!). Dyma fideo o'na fo'n neidio off y bont. I chi gal gwbod, hwn oedd y lleoliad bungy jump cyhoeddus cynta yn y byd.

A dyma lunia o'na fo'n gneud yr ail naid - afiach go iawn!

Y diwrnod wedyn, natha ni ddreifio o Queenstown fyny i Wanaka. Oedd na rwbath cwl IAWN yn Wanaka - Puzzling World (da chi'n dalld pwrpas y teitl rwan?!)! Dwi'n licio llefydd felma, so o'n i wrth fy modd.

Yn y sdafall gynta yma, oedd na lwyth o wyneba ar y walia, ac wrth gerddad rownd efo un lygad wedi cau, oedd o rili'n edrych fel bod nw'n sbio arna chi! Afiach braidd.

Ar ol huna, sdafall rili cwl. Sbiwch ar y llun yma:

Edrych fel sdafall reit normal dydi? Ond sbiwch be oedd yn digwydd pan oedda ni fewn yn y sdafall: (A dwi dal ddim yn dalld SUT ma hyn yn gweithio fy hun!!)

Ac yn ola, y sdafall ora - sdafall hollol gam. Yn y llunia yma, ma Dan a fi'n sefyll fyny'n syth, dim ond y sdafall sy'n gam:

Oedd o ddigon i roi cur pen i chi yn diwadd. Oedd na liffd grisha hefyd oedd yn edrych fel bod o'n sleidio fyny alld, ond sleidio lawr alld oedd o go iawn. Confusing!

Mwy o gur pen oedd nesa - y maze! O'n i'n meddwl swn i reit dda, ond nath Dan rasho fi o tua 20 munud. O'n i'n flin a fed-up erbyn diwadd o fynd fewn i un dead-end ar ol y llall!!

Oedd y toilets reit wahanol fyd - sbiwch ar hwn. Dim ond hannar y sdafall sy yna, a'r hannar arall di cal ei beintio fewn!

A dyma Dan yn dal y cloc enwog fyny efo un law (ond sbiwch ar ei gysgod o...!):

So ia, lot o hwyl fel da chi'n gweld. Ddoe, oedda ni di bwriadu cal diwrnod o bysgota, ond di nw'm yn gneud huna yn y Gaea, felly dyna pam gatha ni ddiwrnod o neud dim byd. Heddiw, da ni di dreifio fyny i Franz Josef, lle da ni am ddringo dros glaciers (Dan yn gneud diwrnod llawn o ddringo, fi mond yn gneud 3/4!). Edrych mlaen, ond mai'n gaddo tywydd rili gwael. Mai'n tresho bwrw fel dwi'n sgwennu hyn! Pythefnos i fynd tan gawn ni haul yn Fiji...!

8 comments:

  1. Siwr bod y tywydd yn gneud ichi hiraethu am Gymru!

    ReplyDelete
  2. Nath calon fi gyflymu yn watchad Dan yn gneud y bynji!!! Dwi'm yn meddwl fyswn i di gellu gneud hunna! Swni di lyfio'r lle puzzle, da di petha fela de. Ma'r blog yn superb - keep it up!xxxxx

    ReplyDelete
  3. Haha, digri meddwl amdanat ti'n mynd yn flin yn y maze!

    ReplyDelete
  4. gen i safle maesbes rwan - galwa draw! fedrai'm ffeindio d'un di chwaith....

    ReplyDelete
  5. Yn dilyn dy row, dyma fi'n gadael sylw unwaith eto! Ti'n iawn, mi neshi checio'r blog ben bora heddiw yr un fath ag arfar, ond oni'n brysur iawn slash yn embarrassed mai fi fysa'r cynta i adael sylw eto!
    Y lle puzzles yn edrach yn lot o hwyl - ma petha felna'n neud fi'n hollol confused!
    Nyts di'r bynji - ond ti'n gall iawn ddim yn neud o yn fy marn i!

    ReplyDelete
  6. "Dan Yn Gneud Bungy"

    ReplyDelete
  7. Hwna odd 'comment' cynta fi, exciting de! Helo pawb!

    ReplyDelete
  8. O mai god, dwi mor jelys o chi'n y lle pysyl na- enwedig y rwm sefyll yn gam!!wawi!!!awe!!!X X X

    ReplyDelete